#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-748

Teitl y ddeiseb:  Bysiau ysgol i blant ysgol

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch pob plentyn wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Rydym am gael bysiau ysgol penodedig â sedd a gwregys diogelwch i bob plentyn, fel y gall plant deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel, ac ni ddylai unrhyw blentyn gael ei orfodi i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn.  Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch plant.

Mae gan ein plant yr hawl i deimlo'n ddiogel. Gall bysiau cyhoeddus fynd yn orlawn. Nid oes gennym ddim syniad pwy allai fod yn teithio ar fws cyhoeddus. Bysiau at ddefnydd y cyhoedd yw bysiau cyhoeddus ac nid cludiant i'r ysgol. Nid ydym yn gofyn am wasanaeth di-dâl. Nid ydym yn gofyn am gael rhywbeth am ddim, dim ond tawelwch meddwl bod ein plant yn ddiogel pan fyddant yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Rydym yn dysgu ein plant bod pobl ddieithr yn beryglus ac eto mae disgwyl i ni eu hanfon ar fws cyhoeddus yn llawn pobl ddieithr bob dydd.

Bu farw fy merch ar ôl iddi gael ei tharo gan fws cyhoeddus a ddefnyddiodd i deithio adref o'r ysgol. Rwy'n teimlo ei bod hi'n anochel y bydd rhiant arall yn wynebu'r un hunllef â mi os na wneir rhywbeth i sicrhau bod gan blant ddull diogel o deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Bydd llawer o bobl yn cofio fy merch Louise a'r ffordd ofnadwy y bu farw. I'r rhai nad ydynt yn cofio, roedd Louise yn 11 oed ac ond megis dechrau yn yr ysgol uwchradd. Roedd fy mhlant yn dibynnu ar fws cyhoeddus oherwydd y pellter i gyrraedd yr ysgol. Ar 19 Mawrth 2001, roeddwn i'n disgwyl i Louise ddod adref o Ysgol Uwchradd Cei Connah ar yr amser arferol, ond roedd y bws yn hwyr y diwrnod hwnnw. Dechreuais boeni, ac wrth i mi adael y tŷ gwelais ffrindiau Louise a ddywedodd wrthyf ei bod hi wedi cael ei tharo gan gerbyd. Rhedais at ben y stryd i weld fy merch brydferth yn ymladd am ei bywyd yn y ffordd, â phlant ysgol gofidus o'i hamgylch. Roeddwn i'n methu â deall beth oedd wedi digwydd. Yn y misoedd wedyn, daeth i'r amlwg bod y bws yr oedd Louise yn teithio adref arno yn orlawn. Roedd oedolion yn sefyll yn siarad â'r gyrrwr. Soniwyd am wthio, a bod ei bag wedi'i ddal yn y drws neu yn yr olwyn, gan achosi iddi gael ei llusgo o dan y bws yr oedd hi newydd ddod oddi arno. Profwyd bod mannau dall nad oedd modd eu gweld yn y drychau ac roedd hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.

Yn dilyn penderfyniad i gau ysgol leol, Ysgol Uwchradd John Summers, mae llawer o rieni wedi siarad â mi am eu pryderon ynghylch diogelwch eu plant wrth deithio ar fysiau cyhoeddus yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Codwyd pwyntiau sydd wedi codi ofn arnaf, felly rwy'n arwain ymgyrch yn enw fy merch er mwyn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i ddefnyddio bysiau trafnidiaeth gyhoeddus fel cludiant i'r ysgol. 

 

Bysiau ysgol penodedig

Mae'r Deisebydd yn galw am fysiau ysgol penodedig i bob disgybl ysgol ac yn dweud na ddylai disgyblion ysgol deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw'r Deisebydd yn gofyn i’r ddarpariaeth hon fod ar gael yn ddi-dâl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau Gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr  (Mehefin 2014) sy'n diffinio 'cludiant penodedig i ddysgwyr':

 "Mae trafnidiaeth benodedig i ddysgwyr yn cynnwys bysiau, coetsis, bysiau mini a thacsis. Dyma drafnidiaeth a ddarperir neu sy’n cael ei sicrhau gan gorff perthnasol (awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir), yn benodol er mwyn cludo dysgwyr o oed ysgol gorfodol (hynny yw’r rhai rhwng 5 a 16 oed) rhwng y cartref a’r ysgol. Er diben dysgwyr yn unig y mae trafnidiaeth benodedig i ddysgwyr. Nid yw’r cyhoedd yn cael defnyddio’r gwasanaeth hwn. "

Gellir defnyddio bysiau gwasanaethau cyhoeddus i gludo dysgwyr rhwng y cartref a'r ysgol, ond cânt eu defnyddio hefyd i gludo aelodau o’r cyhoedd sy'n talu i deithio ar yr un gwasanaeth. Nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw ystadegau am nifer y disgyblion sy'n teithio ar gludiant ysgol penodedig neu drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ei ymateb i'r Pwyllgor, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, mai mater i awdurdodau lleol ei ystyried yw darparu bysiau penodedig i gludo dysgwyr.

Safonau gwasanaethau bysiau lleol a’r polisi bysiau lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol drwy gyfrwng y Grant Cymorth Gwasanaethau Bws (BSSG) a weinyddir gan awdurdodau lleol.  Hefyd, yn 2016, cyhoeddodd Safon Wirfoddol Ansawdd Bysiau Cymru,  sy’n nodi:

Bydd yn ofynnol i weithredwyr sy'n darparu gwasanaethau bysiau lleol fodloni gofynion craidd Safon Ansawdd Bysiau Cymru i barhau i fod yn gymwys i dderbyn y cyllid cyhoeddus sydd ar gael drwy BSSG.

Er nad yw'r rhain yn cyfeirio at safonau na hyfforddiant i yrwyr bysiau ysgol, maent yn cynnwys gofynion hyfforddi eraill ac yn awgrymu sut y gellir defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau canlyniadau polisi’n ymwneud â gwasanaethau bysiau lleol.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch polisi (Trafodaeth ar y Polisi Gwasanaethau Bws: gwella gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru). Mae hyn yn tanlinellu bod Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir sicrhau, erbyn Hydref 2014, fod gwregys diogelwch ar gyfer pob sedd ar fysiau penodedig a ddefnyddir i gludo dysgwyr.

Busnes blaenorol y Cynulliad

Mewn ymateb i bryderon ynghylch nifer y damweiniau’n ymwneud â bysiau sy'n cludo plant, cynhaliodd Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes yr Ail Gynulliad adolygiad polisi o Gludiant Ysgol. Cyhoeddwyd yr adolygiad polisi ym mis Ebrill 2005. Gwnaeth yr adolygiad 30 o argymhellion yn ymwneud ag ymddygiad, egluro cyfrifoldeb, archwilio cofnodion troseddol, asesu risg, materion caffael a chontractau, diogelwch cerbydau a diogelwch disgyblion ar y daith rhwng yr ysgol a’r cartref. Yn dilyn hyn, rhoddodd Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011  bwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno safonau diogelwch penodol ar gyfer  cludiant penodedig i ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys y dewis i gyflwyno hyfforddiant penodol i yrwyr, teledu cylch cyfyng, hebryngwyr ac asesiad risg gorfodol a gwregysau diogelwch gorfodol ar fysiau penodedig sy’n cludo disgyblion rhwng yr ysgol a’r cartref.

Arweiniad ynghylch asesu risg cludiant ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllawiau anstatudol i helpu awdurdodau lleol a gweithredwyr i gynnal asesiadau risg o gludiant ysgol. Dylid eu defnyddio ar gyfer unrhyw gytundeb gwasanaeth cludiant ysgol. Mae'r canllawiau’n nodi y gellir eu haddasu hefyd i’w defnyddio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy'n cludo disgyblion ysgolion  neu ar gyfer cytundebau i gludo disgyblion sydd â gofynion teithio penodol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.